Enghraifft o'r canlynol | ffenomen |
---|---|
Cysylltir gyda | tlodi |
Mae benyweiddio tlodi yn cyfeirio at yr anghydraddoldeb cynyddol mewn safonau byw rhwng dynion a merched oherwydd y bwlch cynyddol rhwng y rhywiau mewn tlodi. Mae'r ffenomen hon yn cysylltu'n bennaf â sut mae menywod a phlant yn cael eu cynrychioli mewn modd anghymesur o fewn y gymuned statws economaidd-gymdeithasol is o'u cymharu â dynion o fewn yr un statws economaidd-gymdeithasol.[1]
Mae'r rhesyma pam fod hyn yn digwydd yn cynnwys strwythur teulu a chartref, cyflogaeth, trais rhywiol, addysg, newid hinsawdd, ffemonomeg ac iechyd. Mae'r stereoteipiau traddodiadol o fenywod yn parhau i fod wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn llawer o ddiwylliannau sy'n cyfyngu ar gyfleoedd incwm a chyfraniad y ferch i'r gymuned. O’i baru ag incwm sylfaen isel, gall hyn amlygu ei hun i gylch o dlodi ac felly'n fater sy’n pontio’r cenedlaethau.
Mae entrepreneuriaeth fel arfer yn cael ei gweld fel yr ateb ac mae eiriolwyr yn honni ei fod yn arwain at greu swyddi, enillion uwch yn y trefi o'i fewn. Ond mae eraill yn anghytuno.[2]
Bathwyd y term hwn yn yr Unol Daleithiau, tua diwedd yr 20g[3] ac mae'n parhau i fod yn ffenomenom a gesisir ei ddileu.[4] Mae rhai ymchwilwyr yn disgrifio'r materion hyn fel rhai sy'n bennaf amlwg mewn rhai gwledydd yn Asia, Affrica a rhai ardaloedd yn Ewrop. Mae menywod yn y gwledydd hyn fel arfer yn cael eu hamddifadu o incwm, cyfleoedd cyflogaeth a chymorth corfforol ac emosiynol gan eu rhoi yn y perygl mwyaf o dlodi. Mae'r ffenomen hon hefyd yn amrywio rhwng grwpiau crefyddol, yn dibynnu ar y ffocws a roddir ar rolau rhywedd a pha mor agos y dilynir eu testunau crefyddol priodol.
Mae benyweiddio tlodi yn cael ei fesur yn bennaf gan ddefnyddio tri mynegai rhyngwladol. Y mynegeion hyn yw'r Mynegai Datblygiadol sy'n Gysylltiedig â Rhywedd, y Mesur Grymuso Rhyw y Person a'r Mynegai Tlodi Dynol. Mae'r mynegeion hyn yn canolbwyntio ar faterion heblaw materion ariannol e.e. anghydraddoldebau rhyw a safon byw ac yn amlygu'r gwahaniaeth rhwng tlodi dynol a thlodi incwm.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search